Beibl
Cymraeg
Cymdeithas
Darllen Pethau Da
Dadleuir mai cyfieithiad William Morgan o’r Beibl a achubodd yr iaith Gymraeg rhag marw ar wefusau’r Cymry. Gan ei fod ef a’i gydweithwyr yn hyddysg yn ieithoedd y testun gwreiddiol, Hebraeg a Groeg, y mae safon yr hyn a gynhyrchwyd ganddynt yn rhagorol. Campwaith ydyw, ac un sydd wedi parhau i ddylanwadu’n drwm ar yr iaith bob dydd a siaredir gennym ni heddiw.
Dyma
eich cyfle i wrando ar y clasur hwn yn cael ei ddarllen yn naturiol
ac yn ystyriol mewn ffermdy tawel yn y mynyddoedd, tua 14 milltir o’r
Ty Mawr, Wybrnant, lle ganwyd William Morgan.
|
Cymraeg Croeso i dudalennau CDPD (Cymdeithas Darllen Pethau Da). Ar hyn o bryd mae'r Gymdeithas yn dal i wneud ei recordiad o Feibl William Morgan. Y mae'r Testament Newydd eisoes wedi ei gwblhau ac mae'r Hen Destament ar y gweill. Bydd llyfrau'r Hen Destament yn ymddangos i'w llawrlwytho fel y byddwn yn eu recordio. Wrth ddilyn y cysylltiadau gallwch lawrlwytho rhannau neu'r cwbl o Feibl William Morgan.
English These are the download pages section for our Welsh Bible recordings. By following the links below you may download all or part of the William Morgan Bible. This is an ongoing work by CDPD. The New Testament is already complete, sections of the Old Testament will appear here as completed. |
|
||||
|---|---|---|---|---|---|
|
Llawrlwytho (Download)
|
Hawlfraint
Mae’r recordiad llais hwn yn ddi-hawlfraint (non-copyright)., ond ni roddir caniatâd i neb newid y recordiad mewn unrhyw ffordd. Cysylltwch efo ni os ydych yn dymuno defnyddio ein cynnyrch mewn ffyrdd gwahanol.
|
||||
|
Beth yw CDPD (Cymdeithas Darllen Pethau Da) ?
Cymdeithas Gymraeg sy’n credu ei bod yn bosibl i gael budd ysbrydol wrth wrando ar lyfr Cymraeg da ac addas sydd a chynnwys Cristnogol sy'n cael eu darllen yn ystyriol. Bwriad y Gymdeithas yw arbed costau proffesiynol ddarllenydd, stiwdio a golygydd i wneud recordiad, er mwyn i’r recordiad fod ar gael mor rhad ac sy’n ymarferol bosib. Er hynny, mae’r Gymdeithas yn ceisio sicrhau bod y recordiad terfynol yn ddigidol ac o safon cymeradwy.
Mae croeso i chi wneud unrhyw sylw ar y recordiad hwn trwy lythyr, ffôn neu e-bost i CDPD, Pantglas Bach, Abergeirw, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2PG Ffôn - 01341 440730 e-bost:PethauDa@GMail.com
|
Problemau Technegol
Os sylwch ar unrhyw nam yn y recodiad gofynwn i chi anfon sylwadau at CDPD. Byddwn yn ddiolchgar am eich cymorth er mwyn sicrhau y safon gorau posib.
Pethau eraill ar y gweill
A fyddai gennych ddiddordeb mewn cael recordiad o rai o lyfrau’r Hen Destament? Os oes, yna cysylltwch a ni i weld beth sydd ar gael. A oes gennych awgrymiadau o recordiad yr hoffech ei brynu e.e. cofiant rhyw bregethwr enwog? Os oes, yna cysylltwch a ni ac fe roddir eich awgrymiad gerbron y pwyllgor rheoli. |
||||
|
Crynoddisgiau
Mae'r recordiadau hyn ar gael ar grynoddisgiau hefyd. Holwch yn eich siop lyfrau Gristnogol le mae hi’n bosibl i archebu yn uniongyrchol gan CDPD. Ar hyn y bryd mae CDPD yn cynhyrchu: |
Nodyn i bobl a nam golwg
Os oes gennych nam golwg, neu yn adnabod rhywun gyda nam golwg, byddwch yn falch o glywed y bydd y recordiad yma ar gael yn fuan drwy'r RNIB (TALKING BOOKS). |
||||
|
Eitem |
Fformat |
Nifer o grynoddisgiau |
Pris |
||
|
Y Testament Newydd |
Audio CD |
18 |
£20 |
||
|
Y Pedair Efengyl |
Audio CD |
9 |
£10 |
||
|
Y Testament Newydd |
MP3 CD 128 Kbit |
2 |
£6 |
||
|
Y Testament Newydd |
DVD (.wav i gyfrifiadur) |
3 |
£9 |
||
|
Efengyl Marc |
Audio CD |
2 |
£4 |
||
|
|
|||||
|
|
|
||||