

Mae’n anodd dychmygu beth fydd cyflwr crefyddol a moesol ein gwlad ymhen degawd arall. Ers sawl blwyddyn bellach, mae’r sefyllfa yn ein gwlad wedi dirywio yn helaeth. Nid oes gan rai ddiddordeb o gwbl i ddarganfod atebion cwestiynau pwysicaf bywyd, megis - a oes yna Dduw? I ba bwrpas y mae dyn ar y ddaear? Beth sydd ar ôl marwolaeth? Beth yw ein cyfrifoldeb tuag at Dduw? Beth yw arwyddocâd croeshoeliad Iesu Grist? Gwelir eraill yn ymddiddori ac yn chwilota am atebion, ond fe’u drysir yn llwyr gan liaws o ddamcaniaethau ac athroniaethau gwahanol. Mae neges glir y Beibl yn ateb yr holl gwestiynau hyn. Pwrpas ein hastudiaethau Beiblaidd fydd i egluro neges yr efengyl, fel y’i ceir yn y Beibl. Mae efengyl ein Harglwydd Iesu Grist yn hanfodol ar gyfer bywyd ysbrydol a thragwyddol.
Y mae’r hen Feibl Teuluaidd mawr yn dal yn ein teulu ni, yn cofnodi genedigaethau a marwolaethau nifer o genhedloedd yn hanes y teulu. Bellach y mae Beiblau llai a hwylusach i’w defnyddio gennym. Y rheswm y soniaf am yr hen Feibl Mawr yw hyn. Yn y rhagymadrodd gan Peter Williams, y mae’n dechrau ei erthygl gyda’r geiriau trawiadol ‘Enaid Gwerthfawr’. Anaml iawn heddiw y clywir sôn am enaid, ond sôn neu beidio y mae gan bob un ohonom enaid, a hynny yn rhywbeth gwerthfawr. Yn anffodus ac yn drist, hawdd yw esgeuluso’r enaid ...